Adroddiad drafftY Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-01-15

 

CLA485 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014

 

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("y Ddeddf").  Caiff y lluosydd ardrethu annomestig ei gyfrifo ym mhob blwyddyn ariannol pan na chaiff rhestrau newydd eu llunio ynddi, yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i'r Ddeddf.   Mae 2015 yn flwyddyn pan nad yw rhestrau newydd yn cael eu llunio.

 

Mae'r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf i bennu drwy Orchymyn swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i swm gwahanol a bennir felly fod yn is na'r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol.  Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol yw 257.6.  Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi mai'r swm ar gyfer eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2015 yw 256.9. 

 

GweithdrefnCadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.                Caiff y pŵer galluogi ei nodi'n gywir fel paragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.  Caiff y weithdrefn sy'n gymwys i Orchymyn a wneir gan ddibynnu ar y pŵer a bennir ei nodi yn is-baragraff (15) o baragraff 5 fel a ganlyn –

 

“An order made by the Welsh Ministers under sub-paragraph (3), in its application to a particular financial year (including an order amending or revoking another), shall not be effective unless it is approved by resolution of the Assembly before the approval by the Assembly of the local government finance report for the year, or before 1 March in the preceding financial year (whichever is earlier).”

 

2.       Dilynodd y Gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014) y weithdrefn gadarnhaol arferol, yn amodol ar gydymffurfio â'r gofyniad ychwanegol yn is-baragraff (15) yn unig.  Cymeradwywyd y Gorchymyn drafft gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y cymeradwywyd yr adroddiad, a llofnodi'r Gorchymyn terfynol.  Esbonnir hyn yn nhrydydd paragraff Rhan 2 y Memorandwm Esboniadol.

 

3.       Mae'r pedwerydd paragraff o'r Memorandwm Esboniadol yn esbonio bod Llywodraeth Cymru wedi diwygio ei dehongliad o'r gofynion yn is-baragraff (3).  Mae bellach o'r farn mai'r weithdrefn briodol yw i'r Gorchymyn gael ei lofnodi cyn y caiff ei gymeradwyo sydd, yn ei dro, yn gorfod digwydd cyn yr adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol.

 

4.       Mae'r diffyg cyfeiriad at orchymyn drafft yn is-baragraff (15) yn bwrw amheuaeth ar pa un a ddylai gael ei lofnodi cyn neu ar ôl ei gymeradwyo.  Yr elfennau hanfodol sy'n parhau yw llofnod gan un o Weinidogion Cymru a chymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol a bydd y gofynion hynny wedi'u bodloni beth bynnag fo'r drefn y maent yn digwydd.

 

5.       Serch hynny, mae'r defnydd o weithdrefn wahanol a fabwysiadwyd yn gynharach eleni i gydymffurfio â'r un gofynion statudol yn gyfystyr â "defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau" i'w adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 (ii).

 

6.       Mae'r dull gwahanol yn codi anhawster pellach – pa un a fydd yn glir i ddarllenydd y ddeddfwriaeth os ydyw mewn grym neu beidio.  Mae erthygl 1(2) o'r Gorchymyn yn cynnwys yr amod a geir yn is-baragraff (15) bod yn rhaid cymeradwyo'r Gorchymyn cyn cymeradwyo'r adroddiad.  Yn anffodus, ni fydd yn amlwg o'r Gorchymyn a fodlonwyd yr amod hwnnw.

 

7.       Os gwnaed y Gorchymyn (drwy gael ei lofnodi gan Weinidog) ar ôl cymeradwyo, byddai wedi bod yn bosibl cynnwysdatganiad bod y Gorchymyn wedi'i gymeradwyo cyn cymeradwyo'r adroddiad.  Mae'r hyn a ddigwyddodd ar yr achlysur hwn yn gwneud hynny'n amhosibl gan fod y ddwy gymeradwyaeth yn y dyfodol pan lofnodwyd y Gorchymyn.  Tuedda hynny i gefnogi defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol safonol.

 

8.       Mae erthygl 1(2) fel y'i drafftiwyd, yn cyfeirio'r darllenydd i'r rhagamod ar gyfer cymeradwyaeth, gan adael y cwestiwn o fodloni'r amod heb ei ateb.  Er mwyn canfod yr ateb, byddai angen edrych ar wefan y Cynulliad i gadarnhau ym mha drefn y digwyddodd y pleidleisiau.  Nid yw'n foddhaol y byddai angen ymchwil o'r fath er mwyn canfod a yw'r Gorchymyn mewn grym.  Felly, dylai'r Cynulliad roi sylw arbennig i'r Gorchymyn oherwydd "bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr" o dan Reol Sefydlog 21.2(v).

 

Craffu ar y Rhinweddau

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Rhagfyr 2014

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gyfer Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014

 

1.   Mae Llywodraeth Cymru’n anghytuno bod hwn yn ddefnydd anghyffredin neu annisgwyl o’r pŵer. Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cytuno bod y pŵer galluogi cywir yn cael ei enwi, sef paragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988).  Mae Paragraff 5(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu ffigur ar gyfer ‘B’, trwy Orchymyn, sy’n llai na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi’r flwyddyn ariannol sy’n rhagflaenu’r flwyddyn o dan sylw. Dyna’n union y mae’r Gorchymyn yn ei wneud, yn erthygl 2.

 

2.   Cydnabyddir bod y Gorchymyn eleni yn dilyn ffurf wahanol ar y weithdrefn gadarnhaol i’r hyn a ddilynwyd y llynedd. Er hynny, yn y ddau achos, ni chaiff y Gorchymyn effaith oni fydd y Cynulliad yn ei gymeradwyo, a hynny cyn iddo gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol. Yr unig wahaniaeth eleni yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud y Gorchymyn cyn iddo gael ei osod. Mae Paragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988  yn darparu “an order made by the Welsh Ministers …shall not be effective unless it is approved…” .O gofio bod paragraff 5(15) yn cyfeirio at order made gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na draft order, mae Llywodraeth Cymru wedi casglu bod Deddf 1988 yn rhagnodi ar gyfer amrywiad ar y weithdrefn gadarnhaol, a ddefnyddir yn bur aml, y gosodir y Gorchymyn o dani ar ôl cael ei wneud gan Weinidogion Cymru, ond na all ddod i rym oni chaiff ei gymeradwyo gan y Cynulliad. Mae Statutory Instrument Practice 2006 yn categoreiddio’r weithdrefn hon fel gweithdrefn gadarnhaol Dosbarth (ii) (gweler tudalen 9). Dilynodd y Gorchymyn cyfatebol, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol sef Gorchymyn Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Lluosyddion Ardrethu Annomestig) (Lloegr) 2014  yr amrywiad hwn ar y weithdrefn gadarnhaol, a ddefnyddir yn bur aml.

 

3.   Mae Llywodraeth Cymru’n anghytuno bod angen esbonio ffurf neu ystyr y Gorchymyn ymhellach. Mae Erthygl 1(2) yn darparu bod y Gorchymyn yn dod i rym ddiwrnod ar ôl i’r Cynulliad ei gymeradwyo, ar yr amod bod y Cynulliad yn cymeradwyo’r Gorchymyn cyn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol. Dylai’r darllenydd dybio felly fod y Cynulliad wedi cydymffurfio â’r statud sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y Gorchymyn yn cael ei gymeradwyo cyn i adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol gael ei gymeradwyo. Nid yw’n ddelfrydol y byddai angen i’r darllenydd wirio trefn fusnes y Cynulliad ar ei wefan, er mwyn bod yn siŵr, ond nid bai’r Gorchymyn yw hynny. Mae unrhyw ddiffyg eglurder yn deillio o’r ddeddfwriaeth sylfaenol, o’i gymharu â’r is-ddeddfwriaeth a wneir odani. Unwaith eto, mae’r Gorchymyn cyfatebol a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol y cyfeirir ato uchod yn arwain at ofyniad o’r fath. Nid ydym yn gwybod am unrhyw adroddiad gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol ar y Gorchymyn hwn. 

 

4.   Y llynedd oedd y tro cyntaf i’r pŵer hwn yn Neddf 1988 erioed gael ei ddefnyddio yng Nghymru neu Loegr. Cafodd y Gorchymyn ei baratoi mewn brys eithriadol, yn dilyn Datganiad yr Hydref ym mis Rhagfyr, o gofio’r angen iddo gael ei gymeradwyo cyn Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol yng nghanol Ionawr. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi cael mwy o amser i baratoi am y posibilrwydd y gallai fod angen Gorchymyn o’r fath ac mae wedi cael y cyfle i ystyried y fframwaith statudol perthnasol yn fanylach, gan arwain at ddilyn ffurf ychydig yn wahanol ar y weithdrefn gadarnhaol eleni.